Cyflwyno Fframwwaith Ymchwil ar gyfer Archaeoleg Cymru

 

 

www.archaeoleg.org.uk

 

 

 

 

Rydych chi yma: Cartref > Cyflwyniad

 

CYFLWYNIAD

Mae angen i Gymru wybod am ei gorffennol. Mae deall hanes diwylliant yn hanfodol i’w dwf a’i ddatblygiad parhaus. Mae agenda Cymru’n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru yn pwysleisio dathlu a gwarchod ein treftadaeth ragorol — a rhaid i wybodaeth fod yn sail i hyn.

Bu archaeolegwyr yng Nghymru yn cyfrannu at y broses hon ers tua dwy ganrif, gan gloddio safleoedd a cheisio dehongli’r hyn y gallant ei ddweud wrthym. Ond mae’r gorffennol yn cadw llawer o gyfrinachau o hyd, a rhaid i wybodaeth am adeiladau, henebion a thirweddau Cymru barhau i ddatblygu. Mae’r wefan hon yn cynnwys y fframwaith ymchwil sy’n gwerthuso’r cyflawniadau a wnaed eisoes ac yn nodi rhai cwestiynau allweddol y mae angen eu hateb o hyd.

Dechreuodd y gymuned archaeolegol yng Nghymru fynd i’r afael â’r her o gynhyrchu’r fframwaith yn 2001 gyda chynhadledd yn Aberystwyth a drefnwyd gan Grwp Sefydliad Archaeolegwyr Maes Cymru. Bu’r fenter drwy sawl cam ers hynny, ond cydnabuwyd o’r cychwyn bod rhaid adolygu a diweddaru unrhyw fframwaith ymchwil yn rheolaidd.

Rydym wedi cychwyn ar yr adolygiad mawr cyntaf o'r fframwaith. Mae hyn yn sgil cyhoeddi’r Datganiad Strategol a Chynllun Gweithredu ar gyfer yr Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru gan y Gweinidog Treftadaeth, ar 22ain o Fis Fedi, 2009. Mae'r Cynllun Gweithredu yn cyfeirio'n arbennig at yr angen i gyflawni adolygiad o flaenoriaethau'r Fframwaith erbyn diwedd 2010. Bwriedir cyhoeddi'r newyddion diweddaraf o hynt a helynt y gwaith hwn ar ein gwefan, ynghyd â rhoi gwybodaeth am sut gallwch chi ymuno yn y broses.

 

Sut y cynhyrchwyd y fframwaith?

Sut y caiff y fframwaith ei ddefnyddio?

'Towards a Strategy' - papur ychwanegol mewn ffurf PDF, (Saesneg yn unig) yn agored mewn ffenestr newydd

 

Cloddiad cist gladdiad o’r Oes Efydd cynnar yn Fan Foel, Sir Gaerfyrddin,ym mis Mehefin 2004. (h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Cloddiad cist gladdiad o’r Oes Efydd cynnar yn Fan Foel, Sir Gaerfyrddin,ym mis Mehefin 2004.
(h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed