CYMRU
GANOLOESOL GYNNAR (410–1100)
Yn y cyfnod canoloesol cynnar, o ddiwedd
cyfnod y Rhufeiniaid i’r goresgyniad Normanaidd, gwelwyd
newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd sylfaenol
a greodd wreiddiau natur wahanol Cymru o ran iaith, tirweddau,
diwylliant a chred. Prin yw’r ffynonellau dogfennol
a dim ond ychydig iawn o safleoedd anheddu a mynwentydd a
fu’n destun ymchwiliad archaeolegol. Nid yw llawer o’r
cwestiynau mwyaf sylfaenol wedi’u hateb o hyd.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Aneddiadau a chymdeithas
- mae angen gwneud gwaith sylfaenol i gadarnhau hierarchaeth
mathau o aneddiadau seciwlar a dadansoddi gwahaniaethau
rhanbarthol a chronolegol.
-
Yr economi - Mae angen
cael gwell dealltwriaeth o’r defnydd o dir ac adnoddau,
newid yn yr hinsawdd, crefftau a systemau cyfnewid.
-
Yr eglwys ganoloesol gynnar
- Mae angen gwybod mwy am y broses o dröedigaeth
Gristnogol, datblygiad safleoedd crefyddol ac effaith
ehangach yr eglwys.
-
Cysylltiadau allanol
- Dylid cael gwell dealltwriaeth o barhad diwylliant Brythonaidd-
Rufeinig, effaith y Llychlynwyr a chydberthnasau cyfnewidiol
gwahanol rannau o Gymru â Lloegr, parth Môr
Iwerddon a mannau pellach i ffwrdd.
|

 |
Cloddio bedd dynol
canoloesol cynnar yn Fferm Brownslade, Sir Benfro,
ym mis Awst 2006.
(h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed |

 |
Mae'r garreg arysgrifedig
ganoloesol gynnar hon o Benbryn, Ceredigion, yn coffau
CORBALENGIIACIT ORDOVS (yma y gorwedd Corbalengus,
o'r cyfnod Ordofigaidd.
Hawlfraint y Goron (h)CBHC (NPRN304135, D12005_1198) |

 |
Broetsh fylchgron
arian wedi’i haddurno â gleiniau gwydr
glas, ffoil aur a filigri aur; wythfed neu nawfed
ganrif OC. Darganfuwyd yn Newton Moor,Bro Morgannwg.
(h)Amgueddfa Genedlaethol Cymru |
|