CYMRU
DDIWYDIANNOL A MODERN (1750 HYD HEDDIW)
Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, roedd diwydiannau
glo, metel, llechi a thrafnidiaeth Cymru o bwysigrwydd rhyngwladol.
Dangosodd cyfrifiad 1851 fod mwy o weithwyr yn cael eu cyflogi
mewn diwydiant nag amaethyddiaeth, ac o ganlyniad i hyn Cymru
oedd gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Cymru a’r byd ehangach
- Mae angen gwneud mwy o waith i asesu pwysigrwydd cymharol
diwydiannau Cymru a fydd yn sail i fentrau rhyngwladol
ac i gael cydnabyddiaeth briodol.
-
Y stoc adeiladau
- Mae archwilio amlder adeiladau crefyddol, addysgol a
domestig yn cynnig cyfleoedd i ddeall patrymau rheolaeth
a hunan-ddyrchafiad, ymfudo ac amrywiaeth mewn cymunedau
gwaith.
-
Llwybrau trafnidiaeth
- Mae angen cynnal astudiaethau pellach i gadarnhau pwysigrwydd
camlesi, ffyrdd, rheilffyrdd a phorthladdoedd Cymru.
|

 |
Bythynnod Stack
Square,ger y gwaith haearn sy’n rhan o Sa?e
Treftadaeth y Byd Blaenafon.
(h)Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y
Goron) |

 |
Dyfrbont Pontcysyllte,
Wrecsam: heneb o bwysigrwydd rhyngwladol.
(h)Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y
Goron) |

 |
Neuadd Goffa Trecelyn,
Trecelyn: un o’r sefydliadau cymdeithasol newydd
ar gyfer cymunedau gwaith de Cymru.
(h)Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y
Goron) |
|