CYMRU
FORWROL AC ARFORDIROL
Mae astudio archaeoleg forwrol yn ddisgyblaeth
gymharol ddiweddar, ond ceir ymwybyddiaeth gynyddol o’i
photensial i ddarparu tystiolaeth bwysig ar gyfer cyfnodau
cynhanesyddol a chyfnodau diweddarach. Mae datblygiadau arfordirol
ac alltraeth cynyddol yn gwneud ymchwil a dealltwriaeth yn
hanfodol.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Defnydd tir cynhanesyddol
- Mae cyfleoedd mawr i ddeall cynhanes cynnar drwy astudio
aneddiadau arfordir cyfnewidiol Cymru wrth i lefelau’r
môr godi, drwy dystiolaeth ar y tir a thirweddau
tanddwr.
-
Masnach arfordirol
- Dylem ddatblygu ymhellach wybodaeth am sut y defnyddiwyd
glannau Cymru ar gyfer masnach ac aneddiadau, datblygiad
porthladdoedd, a mordwyo arfordirol a morydol.
-
Llongau - Mae llawer
i’w ddysgu am ddatblygiad mathau penodol o longau
yng Nghymru mewn ymateb i amodau, deunyddiau a thraddodiadau
lleol, a gofynion diwydiannau penodol.
Ni pharatowyd unrhyw bapurau seminar ar y thema hon
yn 2003. Yn lle hynny cyflwynwyd papur Cymru Gyfan i'r seminarau
rhanbarthol.
|

 |
Maglau pysgod yn
Gored Tre-Castell, Llangoed, Ynys Môn. Hawlfraint
y Goron
(h)CBHC (NPRN301746D12006_0261) |

 |
Plymwyr yn archwilio
llongddrylliad Genoaidd arfog a aeth ar goll yn 1709
ym Mae Ceredigion.
(h)Mike Bowyer/ Sid Wignall |

 |
Llong Casnewydd
o’r bymthegfed ganrif yn ystod cloddiad yn 2002.
(h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent |
|