CYMRU
GANOLOESOL (1100–1539)
Er gwaethaf yr holl ddogfennau a’r
adeiladau sydd wedi goroesi, mae llawer i’w ddysgu o
hyd drwy archaeoleg am anheddu a defnydd tir, tiriogaeth,
cysylltiadau ac effaith gymharol ffactorau economaidd a hinsoddol.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Aneddiadau - Mae
angen astudiaethau manylach, dwysach o safleoedd anheddu
seciwlar o statws gwahanol, ynghyd â’u tirweddau,
yn cynnwys gwaith cloddio a gwaith amgylcheddol.
-
Defnydd tir - Mae
angen gwaith i nodi defnydd tir yn well yn y Canol Oesoedd,
yn cynnwys profi tybiaethau presennol am swyddogaeth a
dyddiad.
-
Diwydiant - Mae diffyg
gwybodaeth gydlynol am leoliadau, cynnyrch a marchnadoedd
diwydiannau canoloesol yng Nghymru.
|

 |
Castell Carreg
Cennen, Sir Gaerfyrddin.
(h)Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y
Goron)
|

 |
Gweddillion cloddedig
Llys Rhosyr, Ynys Mon.
Hawlfraint y Goron (h)CBHC (NPRN305904AP_2005_151) |

 |
Caeau stribed canoloesol,
a enwir The Vile, Gwyr, Abertawe.
Hawlfraint y Goron (h)CBHC (NPRN24333D12006_05081995) |
|