CYMRU
NEOLITHIG AC OES EFYDD GYNHARACH (4000CC – 1500CC)
Newidiodd yr amgylchedd a’r ffordd
yr oedd pobl yn byw ac yn rhyngweithio yn sylweddol pan gyflwynwyd
ffermio tua 4000 CC, ond nid ydym yn gwybod llawer am y newid
hwn. Mae llawer o dystiolaeth o weithgareddau angladdol a
defodol yng Nghymru, ond prin yw’r dystiolaeth o anheddu.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Y newid Neolithig-Mesolithig
- Mae angen astudio newidiadau i’r arfordir a lefel
y môr a lleoliadau anheddu drwy gloddio, dyddio
a chymryd samplau amgylcheddol.
-
Deall henebion - Yn
dilyn asesiad maes a gwaith catalogio diweddar, mae angen
deall y mathau gwahanol o henebion Neolithig a henebion
yr Oes Efydd drwy ddadansoddi topograffigol, cymryd samplau
amgylcheddol, dyddio ac ail-archwilio deunydd o gloddiadau
blaenorol.
-
Ble oedd yr aneddiadau?
- Nid oes nifer fawr o aneddiadau’r bobl a adeiladodd
yr henebion Neolithig neu henebion yr Oes Efydd cynnar
yn hysbys, gan greu angen i adolygu olion cnydau a’r
dosbarthiad o arteffactau, ac ystyried casgliadau arwyneb
a chloddiadau sampl wedi eu targedu.
-
Sut oedd poblogaethau cynhanesyddol
yn defnyddio’r dirwedd? - Mae angen archwilio’r
ardaloedd o amgylch henebion i nodi systemau caeau, chwilio
am dystiolaeth o sianelau naturiol a chorsydd, ac archwilio
ffynonellau deunyddiau crai a’r defnydd ohonynt.
|

 |
Rhes cerrig Saith
Maen, ger Dan yr Ogof, Powys. Hawlfraint y Goron
(h)CBHC (NPRN84328, D12006_0772RI) |

 |
Adluniad a awgrymwyd
o un o'r tai Neolithig yn Llandegai, Gwynedd.
(h)Cymdeithas Hynafiaethau Cymru |

 |
Cloddiad Hengor
Dyffryn Lane
(h) Amddiriedolaeth Archaeoloegol Clwyd-Powys |

 |
Cloddiad Carn
Llanelwedd
©Clwyd-Powys Archaeological Trust |
|