|
Bu rhyngweithio rhwng pobl a’r amgylchedd
yn hanfodol ym mhob cyfnod, a gellir gwerthfawrogi pwysigrwydd
hyn oherwydd her newid hinsawdd i’n byd heddiw. Mae
ein gwybodaeth am yr hinsawdd a llystyfiant o baill, esgyrn,
hadau neu anifeiliaid di-asgwrn cefn yn amrywio’n sylweddol
o hyd, ac mae’n hanfodol manteisio ar bob cyfle i gasglu
deunydd o’r fath, er enghraifft o ddyddodion dyfrlawn
ac ymchwiliadau archaeolegol a gynhaliwyd drwy’r broses
gynllunio. Mae’n bosibl i dystiolaeth amgylcheddol fynd
i’r afael â chwestiynau allweddol.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Sut oedd yr amgylchedd a gweithgarwch
economaidd yn gysylltiedig yn ystod y cyfnod Mesolithig,
yn enwedig yn y parth arfordirol?
-
A ddaeth poblogaethau Neolithig yn
fwy sefydlog o ganlyniad i ddatblygiad amaethyddiaeth?
-
Sut y newidiodd arferion o ran hwsmonaeth
anifeiliaid a phlanhigion?
-
Ym mha gyfnodau y mae’n bosibl
nodi defnydd tymhorol neu drawstrefa?
Ni pharatowyd unrhyw bapurau seminar ar y thema hon yn
2003. Yn lle hynny cyflwynwyd papur Cymru Gyfan i'r seminarau
rhanbarthol.
|

 |
Olion traed Mesolithig
a ddarganfuwyd yn ystod gwaith maes yn Aber Hafren.
(h)Amgueddfa Genedlaethol Cymru
|

 |
Cymryd samplau
paill yn nhomen gladdu Oes Efydd Fan Foel ar Fannau
Sir Gaerfyrddin i bennu cyd-destun amgylcheddol yr
heneb.
(h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed |
|