CYMRU
ÔL-GANOLOESOL (1539–1750)
Roedd y cyfnod ôl-ganoloesol yn gyfnod
o newid mawr yng Nghymru. Yn sgîl diddymu’r mynachlogydd,
a gwblhawyd yn 1539, ad-drefnwyd yr economi ar raddfa fawr,
sefydlwyd neu ehangwyd ystadau seciwlar mawr a chychwynnwyd
ar draddodiadau adeiladu amrywiol. Dechreuodd trefi sirol
dyfu wedi’r Ddeddf Uno â Lloegr yn 1536.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Meintoliad - Mae’r
gyfradd oroesi yn y cyfnod hwn yn creu cyfleoedd i astudio
patrymau a newid rhanbarthol dros amser, ond mae hyn yn
galw am asesiad systemataidd o’r adnoddau.
-
Aneddiadau - Dylid
sicrhau gwell dealltwriaeth o’r newidiadau mewn
aneddiadau gwledig a thai cynhenid rhwng y cyfnod canoloesol
a’r cyfnod ôl-ganoloesol, a dylid ymchwilio
i’r patrymau anheddu cyn-ddiwydiannol sy’n
sail i ardaloedd trefol er mwyn taflu goleuni ar dwf trefi.
-
Newid economaidd -
Dylid astudio’r arferion amaethyddol, garddwriaethol
a diwydiannol cyfnewidiol ar diroedd a gollwyd gan y mynachlogydd.
-
Ffiniau tiroedd -
Mae angen gwneud astudiaethau rhyngddisgyblaethol o barcdir
a ffiniau caeau i nodi eu gwerth fel adnoddau ecolegol
ac archaeolegol.
|

 |
Anheddiad wledig
anghyfannedd Hafod Eidos, Ceredigion.
(h)Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y
Goron) |

 |
Ty a gerddi Erddig,
Wrecsam. Hawlfraint y Goron
(h)CBHC (NPRN27130.GTJ50109) |
|