CYMRU'R
OES EFYDD DIWEDDARACH A'R OES HAEARN (1500CC–43OC)
Mae gwybodaeth resymol am batrymau anheddu’r
Oes Efydd ddiweddar a’r Oes Haearn drwy oroesiad clostiroedd
â chloddiau a bryngaerau. Fodd bynnag, prin yw ein gwybodaeth
am ddefnydd tir a sut y defnyddiwyd adnoddau, ac nid oes braidd
dim tystiolaeth ar gyfer gweithgareddau angladdol neu ddefodol.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Aneddiadau a defnydd tir
- Mae angen i ni nodi aneddiadau diamddiffyn, deall eu
perthynas â safleoedd amddiffynedig, ac astudio
defnydd tir ac arferion amaethyddol.
-
Yr amgylchedd yng Nghymru
- Mae angen cynnal gwaith dadansoddi amgylcheddol i gadarnhau
effaith dirywiad yn yr hinsawdd ar amaethyddiaeth a chymdeithas
yn yr Oes Efydd ddiweddarach.
-
Arferion defodol ac angladdol
- Mae’n bwysig nodi safleoedd sy’n gallu dweud
wrthym am arferion defodol ac angladdol, a darparu olion
dynol i’w hastudio.
|

 |
Systemau caeau
cynhanesyddol ar Ynys Sgomer, Sir Benfro. Hawlfraint
y Goron
(h)CBHC (NPRN243692001–CS–0664A)
|

 |
Cloddiad clostir
anheddiad cynhanesyddol hwyr yn Ffynnonwen, Ceredigion
2006.
(h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed |

 |
Casgliad aur ac
efydd, Burton, Wrecsam (1300-1150 CC)
(h)Amgueddfa Genedlaethol Cymru |
|