Cyflwyno Fframwwaith Ymchwil ar gyfer Archaeoleg Cymru

 

 

www.archaeoleg.org.uk

 

 

 

 

Rydych chi yma: Cartref > Cyflwyniad

 

CYNHADLEDD 2016

CYFRANNU, TRAFOD, DYSGU

Sefydlwyd Fframwaith Ymchwil Archaeoleg Cymru gan y gymuned archaeolegol yn 2001. Pymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Fframwaith yn cael ei hail adolygiad er mwyn tynnu sylw at y cwestiynau allweddol sydd heb eu hateb a hefyd gwerthuso ein llwyddiannau.

Bydd y gynhadledd yn dod â phawb at ei gilydd sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso seiliau gwybodaeth archaeoleg Cymru, ynghyd â’r sawl sydd am ddysgu mwy am eu meysydd arbenigol.Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar gyfres o weithdai a sesiynau trafod, er mwyn ychwanegu gwybodaeth a dealltwriaeth i amcanion terfynol y Fframwaith Ymchwil ar gyfer themau a chyfnodau allweddol. Mae rhai o’r papurau draft eisoes ar gael yma - http://www.archaeoleg.org.uk/wdocuments2016.html gyda rhagor i ddilyn.

Anogir y sawl sy’n mynychu’r gynhadledd i ddarllen y dogfennau sydd ar lein, ynghyd ag amcanion presennol yr ymchwil ymlaen llaw, er mwyn sbarduno trafodaethau bywiog am safleoedd allweddol, yr ymchwil diweddaraf yn y meysydd ymchwil, blaenoriaethau’r dyfodol ac effaith yr ymchwil. Gallwch bostio eich sylwadau ar ein blog www.archaeoleg.org.uk/wblog.html neu ar ein tudalen Facebook, neu Twitter @ArchRefWales, neu e-bost info@archaeoleg.org.uk

Cynhelir y gynhadledd dros ddeuddydd, Tachwedd 26-27ain, 2016, ym Mhrifysgol Bangor. Ceir yr agenda yma.

Dilynwch y cyswllt i fwcio eich tocynnau neu i roi rhodd. Gallwch dalu gyda cherdyn neu gyda siec (dilynwch y cyfarwyddiadau ar lein). https://www.eventbrite.co.uk/e/welsh-archaeology-research-framework-conference-2016-tickets-27699252209

Gwirfoddolwyr o bob rhan o’r gymuned archaeolegol yng Nghymru sy’n rhedeg y Fframwaith Ymchwil. Fel rhan o’r adolygiad, rydym yn gobeithio diweddaru’r wefan i wneud y wybodaeth yn haws i ddefnyddio i bawb. Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw roddion i helpu cwrdd â chost y gwaith yma.

Hoffem ddiolch i’r Cydlynwyr Themâu i gyd am roi eu hamser a hefyd diolch i Brifysgol Bangor am drefnu a chroesawu’r gynhadledd. Edrychwn ymlaen at weld cynifer ohonoch ag sy’n bosibl ym Mangor!