CYMRU
RUFEINIG (43OC–410OC)
Wedi’r goresgyniad Rhufeinig, mae’r
dystiolaeth o newid yn cynnwys arteffactau amrywiol a ffynonellau
dogfennol, a cheir fframwaith a ddeellir yn rhesymol dda.
Er hynny mae bylchau gwybodaeth sylweddol o hyd.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Archaeoleg y blynyddoedd ymgyrchu
cynnar - Mae tystiolaeth newydd o safleoedd wedi
dechrau bwrw amheuaeth ar ddehongliadau blaenorol.
-
Rhyngweithio rhwng y goresgynwyr
Rhufeinig a’r boblogaeth frodorol - Dylid
asesu cydberthynasau drwy archwilio aneddiadau o statws
uchel megis bryngaerau, trefi bychan, filâu a’r
vici, sef yr aneddiadau sifilaidd a ddatblygodd ger aneddiadau
milwrol.
-
Arferion angladdol a defodol
- ceir tystiolaeth gref am gredoau ac arferion angladdol
yn y rhan fwyaf o’r Ymerodraeth Rufeinig, ond prin
yw’r dystiolaeth ohonynt yng Nghymru.
|

 |
Y deml Geltaidd-Rufeinig
yn nhref Rufeinig Caerwent (tua 330OC)
(h)Cadw, Llywodraeth Cynulliad Cymru (Hawlfraint y
Goron) |

 |
Arolwg geoffisegol
o gaer Rufeinig Llanfor,Gwynedd.
(h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd |
|